Amdanom ni

The Other Room at Porter's

Sefydlwyd yn 2014, The Other Room yw theatr dafarn gyntaf Caerdydd. O fewn ein gwagle sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol rydyn ni’n cynnal rhaglen drwy’r flwyddyn. Rydyn ni’n cynhyrchu ac yn curadu dramâu, ac mae’n pwyslais ar gefnogi’r goreuon o blith artistiaid Cymraeg a Chymreig. Rydyn ni’n theatr gartrefol o dim ond 44 sedd, ac yn dod â chynulleidfaoedd yn ôl i’r profiad byw gyda dwyster nad oes unrhyw wagle arall yng Nghaerdydd yn ei gynnig.

Mae The Other Room yn cyflwyno gwaith newydd a dramâu modern o 1950 hyd heddiw, gan weithio gydag actorion, awduron, cynllunwyr a chyfarwyddwyr o ansawdd rhyngwladol, i greu theatr heriol a dewr sy’n haeddiannol o’u talentau.